CGVALLEY.CO.UK POLISI PREIFATRWYDD

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut mae Llaethdy Cwm Gwendraeth Dairies Cyf. yn casglu a defnyddio eich data personol drwy eich defnydd o'r wefan hon gan gynnwys unrhyw ddata yr ydych yn ei ddarparu pan fyddwch yn cofrestru gyda ni i brynu cynnyrch.

Nid yw'r wefan hon wedi'i bwriadu ar gyfer plant ac nid ydym yn casglu data sy'n ymwneud â phlant yn fwriadol.

Rheolwr

Llaethdy Cwm Gwendraeth Dairies Cyf. yw'r rheolwr ag sydd yn gyfrifol am eich data personol (cyfeirir ato fel “ni” neu “ein” yn y polisi preifatrwydd hwn).

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn ar bolisi preifatrwydd hwn, yn cynnwys unrhyw gais i ymarfer eich hawliau cyfreithiol (paragraff 7), cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran manylion cyswllt ( paragraff 8).

1. Y Mathau o Ddata Personol a Gasglwn Amdanoch Chi

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person ohoni.

Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi ac yr ydym wedi eu grwpio fel a ganlyn.

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu data cyfun megis data ystadegol neu ddemograffig nad yw'n ddata personol gan nad yw'n datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol (neu'n anuniongyrchol) er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno Data Defnydd unigolion i gyfrifo canran y defnyddwyr sy'n cyrchu nodwedd benodol gwefan er mwyn dadansoddi tueddiadau cyffredinol y mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n gwefan i helpu i wella'r wefan a'n gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig.

2. Sut mae eich Data Personol yn cael ei gasglu?

Gallwch roi eich data personol i ni drwy lenwi ffurflenni ar- lein neu drwy ohebu â ni drwy'r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol a ddarperir gennych pan fyddwch yn:

Nid ydym yn casglu data personol trwy ddefnyddio cwcis neu unrhyw dechnolegau olrhain eraill.

3. Sut rydym yn defnyddio eich Data Personol

Sail Gyfreithiol

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Rydym yn dibynnu ar un neu fwy o'r seiliau cyfreithiol canlynol:

Pwrpasau y byddwn yn defnyddio eich Data Personol

Rydym wedi nodi isod, ar ffurf tabl, ddisgrifiad o'r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio'r categorïau amrywiol o'ch data personol, a pha rai o'r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo'n briodol.

Pwrpas/ defnydd Math o ddata Sail gyfreithiol [a chyfnod cadw]
I'ch cofrestru fel cwsmer newydd (a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
Perfformiad contract gyda chi
I brosesu a danfon eich archeb gan gynnwys:
(a) Rheoli taliadau a ffioedd
(b) Casglu ac adennill arian sy'n ddyledus i ni
(a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
(c) Ariannol
(d) Trafodi
(e) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i adennill dyledion sy'n ddyledus i ni)
I reoli ein perthynas gyda chi a fydd yn cynnwys:
(a) Eich hysbysu am newidiadau i'n telerau neu bolisi preifatrwydd
(b) Delio â'ch ceisiadau, cwynion ac ymholiadau
(a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(d) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol
(c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiweddaru ein cofnodion a rheoli ein perthynas â chi)
I weinyddu'r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a chynnal data) (a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
(a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithiol (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddol a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll ac yng nghyd-destun ad- drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)
(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
Defnyddio dadansoddwyr data i wella ein gwefan, cynnyrch/ gwasanaethau, rheoli perthynas a phrofiad cwsmeriaid ac i fesur effeithiolrwydd ein cyfathrebu a marchnata (a) Defnydd Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynnyrch a gwasanaethau, i gadw'n gwefan yn gyfoes ac yn berthnasol, i ddatblygu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata)
I anfon cyfathrebiadau marchnata perthnasol atoch (a) Hunaniaeth
(b) Cyswllt
(c) Defnydd
(d) Proffil
(e) Marchnata a Chyfathrebu
Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i gyflawni marchnata uniongyrchol, datblygu ein cynnyrch/ gwasanaethau a thyfu ein busnes)

Marchnata Uniongyrchol

Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth, wedi prynu nwyddau neu wasanaethau gennym ond heb optio allan o dderbyn y marchnata.

Marchnata Trydydd Parti

Byddwn yn cael eich caniatâd datganedig cyn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti at eu dibenion marchnata uniongyrchol eu hunain.

Optio allan o Farchnata

Gallwch ofyn i ni roi'r gorau i anfon cyfathrebiadau atoch ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn dewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata, byddwch yn dal i dderbyn cyfathrebiadau cysylltiedig â gwasanaeth sy'n hanfodol at ddibenion gweinyddol neu wasanaeth cwsmeriaid

4. Trosglwyddiadau Rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

1. Diogelwch Data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli'n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu gael mynediad ato mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad personoli'r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd parti eraill sydd ag angen gwybod. Byddant ond yn prosesu eich data personol gyda'n cyfarwyddiadau ni ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

5. Cyfnod Cadw Data

Pa mor hir fyddwch chi'n defnyddio fy Nata Personol

Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag sy'n rhesymol angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y casglwyd ef ar eu cyfer, gan gynnwys dibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth cyfrifo neu adroddiad. Mae'n bosibl y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hwy os bydd cwyn neu os ydym yn credu bod posibilrwydd o ymgyfreitha i ymwneud â'n perthynas â chi.

Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data ar eu cyfer ac a ydym yn gallu cyflawni'r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu ofynion eraill.

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein cwsmeriaid (gan gynnwys Cyswllt, Hunaniaeth, Data Ariannol a Thrafodion) am chwe blynedd ar ôl iddynt roi'r gorau i fod yn gwsmer at ddibenion treth.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler paragraff 7 isod am fwy o wybodaeth.

6. Eich Hawliau Cyfreithiol

Mae gennych nifer o hawliau o dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â'ch data personol.

Mae gennych hawl i:

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid drwy ffonio 01269 506100 neu drwy anfon e-bost i milk@cgvalley.co.uk

Dim angen tâl fel arfer

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw'n amlwg nad oes sail i'ch cais, yn ailadroddus neu'n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â'ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.

Yr hyn y gallem fod ei angen gennych chi

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i'n helpu i gadarnhau pwy ydych ac i sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i'w dderbyn. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn ichi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'ch cais i gyflymu ein hymateb.

Cyfyngiad Amser I Ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais cyfreithiol o fewn mis. O bryd i'w gilydd gallai gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru.

7. Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y polisi preifatrwydd hwn, am y defnydd o'ch data personol neu os ydych am arfer eich hawliau preifatrwydd, cysylltwch â ni yn y ffyrdd canlynol

8. Cwynion

Mae gennych hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), rheoleiddion y DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Byddem fodd bynnag yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi gysylltu â'r ICO felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda.

9. Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd a'ch Dyletswydd i'n Hysbysu am Unrhyw Newidiadau

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd.

Mae'n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Os byddech cystal â rhoi gwybod i ni os bydd eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni, er enghraifft, cyfeiriad e-bost newydd.