Dyma gyflwyno Cwm Gwendraeth Valley – ein brand llaeth cyffrous newydd yma ar Fferm Penrhiw yng Nghwmisfael, Sir Gaerfyrddin, SA32 8BY.

Ein bwriad yw cynhyrchu llaeth yn well, a hynny er budd ein da, ein cwsmeriaid, ein ffermwyr, ein cymuned ynghyd â'r amgylchedd.

Ein cam cyntaf yw gwerthu llaeth cyflawn, llaeth sgim a llaeth hanner sgim mewn poteli 1 peint, ynghyd â hufen mewn poteli 1 peint a hanner peint. Cyn bo hir bydd menyn, caws, iogwrt, hufen iâ a mwy ar gael.

Byddem wrth ein boddau petaech yn ymuno â ni er mwyn mwynhau llaeth lleol ffres fydd yn cyrraedd carreg eich drws yn uniongyrchol. At eich dant? Yna darllenwch sut mae dechrau arni.

GOFALU AM EIN PLANED

Trwy hoelio'n sylw ar gynaliadwyedd, rydym yn meddwl nid yn unig am ein cymunedau lleol ond hefyd am ein hamgylchedd ehangach.

Rydym yn dychwelyd i'r hen ffordd o ddefnyddio poteli gwydr wedi'u hailgylchu. Fe'u golchir a'u hailddefnyddio yn ein llaethdy gan greu dolen ecogyfeillgar gaeedig. Hefyd golyga hyn ein bod yn arbed tua 620kg o blastig fesul pob llwyth lori o boteli llaeth. A hyd yn oed yn well na hynny, gan ein bod yn ailgylchu'r poteli hyd at 25 o weithiau, arbedir cyfanswm o ryw 15.5 tunnell o blastig!

Yn ogystal, y bwriad yw i'r llaethdy hwn gael ei yrru'n rhannol gan drydan ynni gwynt, gan fod yn sail hefyd i'n fflyd o faniau trydan.

EICH BLWCH LLAETH INSWLEIDDIEDIG

Caiff eich llaeth ei gadw'n oer yn ein blwch llaeth inswleiddiedig sydd â chlo a lle i 4 peint.

Trwy osod ein blwch ar eich wal rydym yn gallu dod â llaeth yn ystod diwrnod gwaith, gan sicrhau bod eich llaeth yn dal i fod yn oer gyda'r hwyr. Mae'r blwch ar gael, fel dewis ychwanegol, i'n holl gwsmeriaid.

Gofynnir am gyfraniad ad-daladwy o £10 am bob blwch.

DANFON YN LLEOL

Danfonir ein cynnyrch gan ein gyrwyr lleol cyfeillgar ddwywaith yr wythnos (Llun/Iau, Mawrth/Gwener a Mercher/Sadwrn) o'n canolfan gyntaf yn Sir Gaerfyrddin ac o'n holl ganolfannau eraill yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae hyn yn sicrhau bod llaeth buches Penrhiw heddiw yn eich cyrraedd â'r oes silff hiraf posib.

Yn ogystal, mae ein fflyd o faniau trydan yn hwb i'n cynaliadwyedd ymhell y tu hwnt i'r llaethdy, a hynny nid yn unig drwy leihau allyriadau ein faniau danfon, ond hefyd drwy leihau ymweliadau cwsmeriaid â siopau.

Os ydych wedi cael ein taflen drwy'r twll llythyron, bydd y ffurflen archebu amgaeedig yn rhoi gwybodaeth ichi am y diwrnodau danfon yn eich ardal chi. Os nad ydych wedi cael ein taflen, cysylltwch â ni a bydd ein tîm yn rhoi gwybod ichi a ydym yn danfon i'ch ardal chi ac, os felly, ar ba ddiwrnodau.

PORTH CWSMERIAID AR-LEIN

Mae ein cwsmeriaid yn cael mynediad i'n porth ar-lein, gan sicrhau bod rheolaeth gennych chi, y cwsmer. Gallwch wneud y canlynol drwy'r porth:

Gwyliwch y fideo yma

DECHREUWCH ARNI MEWN 3 CHAM RHWYDD

1
Llenwch y ffurflen archebu a gawsoch drwy'r twll llythyron neu lawrlwythwch isod y ffurflen berthnasol ar gyfer diwrnodau danfon eich ardal chi. Os nad ydych yn siŵr pryd mae'r diwrnodau danfon yn eich ardal chi, cysylltwch â ni i gael y wybodaeth.
2
Bydd angen eich ffurflen archeb sefydlog arnoch chi nesaf; os nad oes gennych un, gallwch ei lawrlwytho yma. Copïwch y swm o'r blwch ‘cyfanswm terfynol' sy'n eich ffurflen archebu a'i roi yng nghyfanswm yr archeb sefydlog ac yna postiwch yr archeb i'r banc. Fel arall gellir trefnu archebion sefydlog ar-lein yn uniongyrchol gyda'r rhan fwyaf o'r banciau.
3
Postiwch eich ffurflen archebu i: 'Fferm Penrhiw, Cwmisfael, Sir Gaerfyrddin, SA32 8BY' neu e-bostiwch sganiad neu lun i milk@cgvalley.co.uk

Os bydd angen ichi newid eich archeb reolaidd, neu addasu'r archeb am un tro yn unig, gallwch ddefnyddio ein porth cwsmeriaid neu gysylltu â'n tîm cyfeillgar. Os ydych wedi defnyddio llai mewn mis na swm eich archeb sefydlog, bydd credyd i'ch cyfrif, ac os ydych wedi defnyddio mwy na'r swm, byddwch yn cael bil am y gwahaniaeth ar ddiwedd y mis, sy'n drefniant clir a syml.

Lawrlwytho archeb sefydlog

Os yw'n well gennych siarad â'n tîm cyfeillgar, ffoniwch 01269 506100